Digwyddiad Llafur Ar-lein – ‘Hebryngydd gogoneddus cymdeithas newydd’: Comiwn Paris a’i Etifeddiaeth

event Wedi'i gynnal 27/05/2021

Ar y 18fed o Fawrth 1871, cipiodd Pwyllgor Canolog y Comiwn ddinas Paris, gan reoli prifddinas Ffrainc am saith deg a dau o ddiwrnodau cyn dioddef cwymp gwaedlyd a marwol ar yr 28ain o Fai. Tarddodd y gwrthryfel, a gynhwysai sosialwyr, ffeminyddion a radicaliaid, o’r 18fed arrondissement Montmartre, gan fywiogi a symbylu Marx, Engels a sosialwyr eraill ar hyd a lled y byd. Ym Mhrydain, dathlwyd a chwestiynwyd posibiliadau proletaraidd grymus y Comiwn. Byddai’r effaith yn parhau am genedlaethau, ac mae etifeddiaeth y Comiwn a’r Comiwnwyr ill dau, yn dal yn fyw heddiw. Ymunwch â ni  i wrando ar Laura Foster, ein siaradreg wadd, yn darlithio ar effaith hirdymor Comiwn Paris yn y cyd-destun Cymreig a Phrydeinig.