Cyfres Gwanwyn Llafur 2022 – Pennod 2: Gwyliau Gweithwyr a Gwyliau Glan Môr

event Wedi'i gynnal 24/03/2022

O Landudno a’r Rhyl yn y gogledd, i’r Barri a Phorthcawl yn y de, mae Cymru yn llawn o draddodiad mannau gwyliau glan môr. Roeddynt yn aml yn fannau cwrdd trefol pwysig, a ‘mannau cymdeithasol’ yn ôl Andy Croll, roedd y llefydd hyn hefyd, yn rhannol, yn sgil-gynhyrchion o ymgyrchoedd lletach ar gyfer gwyliau gweithwyr a ddechreuodd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth edrych ar Ogledd Cymru yn arbennig, ymunwch â ni a’n siaradwyr gwadd Susan Barton a Debbie Owen am fewnwelediad o hanes a threftadaeth mannau gwyliau glan môr a thwristiaeth boblogaidd.