Ffurfiwyd Llafur oddeutu 1970 er mwyn hyrwyddo a phoblogeiddio gwybodaeth ac astudiaeth o bob agwedd o hanes bobl yng Nghymru.

Mae hanes pobl yn ymwneud â hanes pobl gyffredin: eu gwaith, eu glweidyddiaeth, eu diwylliant a’u bywydau bob dydd. Mae’n ymwneud â phrofiadau a sefydliadau’r dosbarth gweithiol, a rôl pobl gyffredin wrth greu hanes. Mae’n eiddo i bawb, ac mae Llafur, Cymdeithas hanes pobl Cymru, yn bodoli i hyrwyddo astudio hanes pobl Cymru.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes pobl Cymru ddod yn aelod. Mae aelodau’n cynnwys haneswyr proffesiynol ac amatur, undebwyr llafur, myfyrwyr, staff amueddfa, llyfrgell a staff archif, gweithwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac aelodau o bob plaid wleidyddol a phobl anwleidyddol.

Mae’r Gymdeithas yn trefnu ysgolion undydd, lle mae themâu amserol yn cael eu hastudio a’u trafod: o streic y glowyr 1984-5, y Rhyfel Mawr, i hanes y mudiad cyweithredol a chyrchfannau gwyliau.