Cyfres Gwanwyn Llafur 2022 – Pennod 1: Teithwyr Chwilfrydig: Ddoe a heddiw

event Wedi'i gynnal 10/03/2022

Mae Llafur yn dechrau Cyfres Gwanwyn 2022 gydag archwiliad o sut y mae pobl ar draws y wlad ac ymhellach wedi ymweld â chymunedau Cymraeg oddi ar y ddeunawfed ganrif. Trwy chwyddwydr teithio, gallwn ddatguddio’r ffordd y trawsnewidiwyd tirwedd Cymru o ganlyniad i ddiwydiannaeth, a sut mae chwilfrydedd parhaol wedi troi mewn i brosiectau etifeddiaeth cyfredol sy’n rhoi goleuni ar hanesion Cymreig cudd. I drafod hyn, ymunwch â ni a’n siaradwyr gwadd, Rita Singer, Nathan Abrams a Catrin Stevens, wrth i ni ddechrau ein taith drwy’r pwnc etifeddiaeth, tirwedd a thwristiaeth.