Croeso i Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymreig.

welsh-peoples-historyDaw Llafur â phobl o bob rhan o fywyd sydd â diddordebau tebyg yn hanes y Cymry at ei gilydd. Trefnwn ystod eang o ddigwyddiadau sydd yn edrych ar agweddau o’n hanes a chyhoeddwn gyfnodolyn o’r enw Llafur.

Cred Llafur nad ond ein hysbysu o’r gorffennol a wna hanes, ond gall hefyd oleuo ein dealltwriaeth o’r presennol, a helpu llunio ein dyfodol. Dyna’r rheswm paham bod nifer o ddigwyddiadau Llafur yn ystyried materion, er eu bont wedi eu gwreiddio yn y gorffennol, yn berthnasol i’n bywydau heddiw. 

Cyhoedda ein cyfnodolyn erthyglau ar bob agwedd o hanes y Cymry. Ymfalchïwn yn ein cofnod o hanes llafur modern ac o gyhoeddi prif gyfnodolyn Cymru am waith hanes menywod. Er hynny, rydym bob amser yn awyddus i ehangu ein gorwelion a mentro i gyfnodau newydd ac ymdriniaethau newydd.

Sefydlwyd Llafur ym 1970, ac efallai mai arwydd o’n haeddfedrwydd (a hefyd o’r cyfraniad rydym wedi gwneud, ac yn parhau i’w wneud) yw’r ffaith fod pobl yn ymgymryd ag astudiaethau hanesyddol gyda ni!

Ynghyd â pharhau i ymgeisio dwyn newid trwy ein dealltwriaeth o hanes, mae’n le i fwynhau ac i rannu, ynghyd ag i ddysgu.

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â ni, i ddarllen ein cyfnodolyn a dod i’n digwyddiadau.