Cyfres Gwanwyn Llafur 2021 – Pennod 3: Treftadaeth a Chof: Archwilio Cymru Iddewig
Wedi'i gynnal
11/03/2021
Mae Iddewon ac Iddewiaeth wedi bod yn gydrannau o fywyd Cymru ers canol y ddeunawfed ganrif. Mae stori’r gwasgariad Cymreig-Iddweig yn un am gymunedau ac unigolion ar draws Gymru, o Fangor i Abertawe, ac yn naratif o dwf a dirywiad poblogaeth. Agwedd a anwybyddir yn aml o orffennol crefyddol, cymdeithasol a diwyllianol Cymru, mae hanes cudd Iddweon Cymru yn y broses o gael ei ddiogelu mewn ffyrdd arloesol a chyffrous. I archwilio’r hanes hwn a’i gadwraeth ymunwch â ni a’n siaradwyr gwadd Cai Parry-Jones, Nathan Abrams a John Minkes i gael trafodaeth ar Gymru Iddweig a’i threftadaeth.