Gwobr Traethawd Ieuan Gwynedd Jones 2022
23/03/2022Mae’n bleser gan Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru gyhoeddi Gwobr Ieuan Gwynedd Jones ar gyfer 2022.
Roedd yr Athro Ieuan Gwynedd Jones (1921-2018) yn un o haneswyr cymdeithasol mwyaf craff Cymru. Mae ei waith ymchwil ar hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru Oes Fictoria a gasglwyd yn y cyfroliau Explorations and Explanations (1981), Communities (1987), a Mid-Victorian Wales: The Observers and the Observed (1992), yn parhau i fod yn ddeunydd darllen hanfodol i haneswyr y cyfnod modern yng Nghymru.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i awduron nad ydynt eto wedi cyhoeddi eu gwait, a gwahoddir ceisiadau ar unrhyw agwedd ar hanes cymdeithasol neu ddiwylliannol Cymru (gan gynnwys hanes llafur, hanes diwylliant gwleidyddol hanes menywod, hanes rhywedd a hanes lleiafrifoedd). Dylid synied am ac ysgrifennu’r darn a gyflwynir fel endid cyflawn ynddo’i hun (yn hytrach na’i fod yn fersiwn byr o ddarn mwy sylweddol o waith). Croesewir erthyglau ymchwil academaidd ffurfiol, erthyglau sy’n adolygu’r hanesyddiaeth neu draethodau dadleuol neu ddamcaniaethol, ond dylai pob ymgais fod yn seiliedig ar waith ymchwil gwreiddiol ac eilaidd.
Dylai ceisiadau fod rhwng 6,000 ac 8,000 o eiriau (gan gynnwys troednodiadau yn dilyn fformat arferol y cylchgrawn) a gellir eu cyflwyno yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Rhaid eu hanfon at olygyddion Llafur erbyn diwedd mis Gorffennaf 2022 trwy ebost: editor@llafur.og. Cyhoeddir y cais buddugol yn Llafur, a bydd yr awdur yn derbyn gwobr ariannol o £100 (neu lyfrau yn gyfwerth) ynghyd â blwyddyn o aelodaeth Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru yn rhad ac am ddim. Mae Llafur yn gylchgrawn sydd wedi ei adolygu gan gymheiriaid.
Dyfarnwyd y wobr yn 2021 i ‘”Onid gwybod yw gobaith / A gorau grym gŵr y graith?”: Poblogrwydd dosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn Nyffryn Nantlle, Arfon (1900-1950),’ gan Ffion Owen, a gellir darllen ei gwaith yn rhifyn 2021 o’r cylchgrawn.