Fframio’n Gorffennol/Picturing Our Past – Ap
29/09/2021Daw Picturing Our Past / Fframio’n Gorffennol â hanes ffilm a theledu Cymru yn fyw o flaen ein llygaid.
Mewn pum pennod sy’n cynnwys pum clip ffilm yr un, mae’r ap yn olrhain y stori gyfareddol – o gyfnod arloesol y ffilmiau mud, drwy ddyfodiad sain ac ymlaen i gyfnod y teledu a’r oes ddigidol.
Ysgrifennwyd yr ap gan y cyfarwyddwr arobryn Colin Thomas a Iola Baines, Curadur Delweddau Symudol Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedleaethol Cymru. Mae ar gael am ddim ar ddyfeisiau Android ac Apple.