Digwyddiad Llafur Ar-Lein & CCB 2023 – ‘Duw, It’s Hard’: darpariaeth treftadaeth, hunaniaeth torfol a chofion diwylliannol, ar ol y diwydiant glo

Digwyddiad Lleoliad:
Ar lein


Digwyddiad Dyddiad: 09/12/2023
Dechrau Digwyddiad: 9/12/23 10:00 am Diwedd y Digwyddiad: 9/12/23 12:30 pm


Mae Llafur yn eich gwahodd i’n digwyddiad ar-lein diweddaraf a CCB 2023.

Ar y 23ain o Dachwedd 1973, recordiodd Max Boyce ei albwm cyntaf a mwyaf eiconaidd,’Yn Fyw yng Nghlwb Rygbi Treorci’ yn y Rhondda. Mae ei ganeuon yn distyllu hanfod Cymreictod y cymoedd ac yn cynnig mewnwelediad rhagorol i fywyd diwydiannol, sydd wedi’i gerfio i’r cof torfol erbyn dechrau’r saithdegau.

Symudwch ymlaen 50 mlynedd, a mae rhai elfennau craidd o hunaniaeth y cymoedd, yn enwedig y diwydiant glo, wedi diflannu. Yn wir, yn oes y cynhesu byd eang, mae’r syniad o gynhyrchu tanwydd ffosiledig yn wenwynig. Mae hyn yn ein arwain i godi nifer o gwestiynau ynglyn a phwy ydyn ni, sut ddylem ymwneud a’r gorffennol, a sut allen ni ailadeiladu hunaniaeth torfol cadarnhaol i’r dyfodol. Bydd y papur gan Darren Macey yn ymwneud a’r drafodaeth yma, yn amlinellu’r heriau sydd yn ein wynebu fel haneswyr cymdeithasol, a bobl yn ymwneud yn broffesiynol ag etifeddiaeth, ac yn disgrifio sut mae delio’r cwestiynau hynny yn ymarferol.

Rhaglen:

10 – 10.10am – Cyflwyniad

10.10 – 10.25am – Dyfarnu Gwobr Traethawd Ieuan Gwynedd Jones 2023

10.25-10.30am – Cyflwyno siaradwr gan y cadeirydd

10.30 – 11.15am – Darlith: ‘Duw, It’s Hard’: darpariaeth treftadaeth, hunaniaeth torfol a chofion diwylliannol, ar ol y diwydiant glo – Darren Macey

11.15 – 11.30am – Holi ac ateb

11.30 – 11.45am – Toriad byr

11.45am – 12.30pm – Cyfarfod Blynyddol

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar Zoom. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Evenbrite, gan ddefnyddio’r cyswllt isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/llafur-online-event-agm-2023-digwyddiad-llafur-ar-lein-ccb-2023-tickets-764218727787?aff=oddtdtcreator

Unwaith eich bod wedi cofrestru, fe ddanfonir manylion o’r cyfarfod a’r cyfrinair ato chi.