Arddangosfa – Dychmygu Hanes: Cymru mewn Ffuglen a Ffaith / Imagining History: History in Fiction and Fact

25/10/2021

Picture

Mae’r paentiadau, gosodiadau, ffotograffau, cerfluniau, straeon a ffilmiau a arddangosir, a ddewiswyd o Gasgliad Amgueddfa Gwaith Celf PDC, yn ogystal â gwaith ar fenthyg o gasgliadau, gan artistiaid neu awduron eraill, i gyd i raddau mwy neu lai yn annibynadwy. Maent yn datgelu’r broses ‘o greu ffuglen’ yr ydym yn ei defnyddio naill ai i adlewyrchu neu i ailosod hunaniaethau cenedlaethol a phersonol mewn ymgais i gael ein hanesion wedi eu hadrodd neu eu hail-adrodd.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Susan Adams, Iwan Bala, Judith Beecher, Elizabeth Bridge, Jack Crabtree, Morag Colquhoun, Ivor Davies, Ken Elias, Geraint Evans, Tom Goddard, Rachel Jones, Naomi Leake, Kate Milsom, Paul Reas, Andre Stitt, Daniel Trevidy, Dawn Woolley ac eraill. Am fwy o wybodaeth: https://gallery.southwales.ac.uk/oriel-y-bont-gallery/arddangosfa-nesaf/

Ar agor bob dydd yn ystod yr wythnos o ddydd Llun 1 Tachwedd i ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2021.

Mae’r digwyddiad agoriadol ar ddydd Gwener 12 Tachwedd 6.30 – 8.30. Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch Covid – archebwch drwy’r ddolen Eventbrite os ydych yn dymuno bod yn bresennol: https://www.eventbrite.co.uk/e/opening-event-for-imagining-history-exhibition-at-oriel-y-bont-tickets-192347906767?aff=erelexpmlt