‘Y Byd yw Ein Gwlad’: Cymru, Sbaen a Thraddodiad o Undod Rhyngwladol

Digwyddiad Lleoliad:
Llyfrgell y Glowyr De Cymru, Y Storfa, 277-278 Oxford St, Abertawe, SA1 3EL


Digwyddiad Dyddiad: 05/12/2026
Dechrau Digwyddiad: 5/12/26 11:00 am Diwedd y Digwyddiad: 5/12/26 03:30 pm


Dadleuodd Hywel Francis unwaith fod ‘rhyngwladoldeb proletaraidd’ â gwreiddiau dwfn yn ne Cymru wedi ysgogi miloedd o lowyr i wirfoddoli ac ymladd yn erbyn ffasgaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, 1936–1939. Mae gan y traddodiad hwn o undod gwleidyddol rhyngwladol hanes hir yng Nghymru, ac mae wedi parhau’n fyw dros y 90 mlynedd diwethaf.

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i ymuno â ni yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr (11:00-15:30) i drafod y traddodiad cyfoethog hwn. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar ymatebion pobl Cymru i Ryfel Cartref Sbaen, gan hefyd archwilio’r ymgyrchoedd undod rhyngwladol a ddilynodd, o Chile i Nicaragua, El Salvador, De Affrica a Phalestina heddiw.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Abertawe i feithrin cysylltiadau, archwilio ein gorffennol cyffredin a dysgu gwersi a all ein helpu i ddeall ac ymateb i’r sefyllfa wleidyddol sydd ohoni.

Rhaglen

Rhan Un – “¡No pasarán!” (11:00-12:35)

Croeso (11:00-11:05)

Ian Rees (Llafur)

Darlith (11:05-11:35)

Siân Edwards – Dinasyddiaeth Weithredol a Rhyngwladoldeb Poblogaidd: De Cymru a Rhyfel Cartref Sbaen, 1936–1939

Trafodaeth banel – Cofio Rhyfel Cartref Sbaen (11:35-12:35)

  • Siân Williams (Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De Cymru (LlGDC), Prifysgol Abertawe) – Casgliad LlGDC ar Ryfel Cartref Sbaen
  • Darren Macey and Rhiannon Seymour (Gwasanaethau Treftadaeth ac Allgymorth Rhondda Cynon Taf) – Cydweithrediad treftadaeth rhwng Rhondda Cynon Taf a Sbaen
  • Mwy o aelodau panel i’w cadarnhau.
  • Cadeirydd – Ian Rees (Llafur).

Egwyl (12:35-13:30)

Rhan Dau – Traddodiad o Undod Rhyngwladol (13:30-15:30)

Darlith (13:30-14:15)

Alun Burge – Chile, El Salvador, Nicaragua: Undod Cymru ag America Ladin yn y 1970au a’r 1980au

Trafodaeth banel – Dysgu o Ymgyrchoedd Undod Rhyngwladol Cymru (14:15-15:25)

  • Mary Greening (International Brigade Memorial Trust)
  • Anne Delaney (Ymgyrch Gefnogi Nicaragua Cymru)
  • Gaynor Legall (Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru)
  • Bethan Sayed (Oxfam Cymru)
  • Cadeirydd – Colin Thomas (Llafur)

Sylwadau i gloi (15:25-15:30)

Ian Rees (Llafur)

***

Digwyddiad wyneb yn wyneb yw hwn, mae’n rhad ac am ddim ac estynnir croeso cynnes i bawb!

Sylwch na fydd cinio’n cael ei ddarparu fel rhan o’r digwyddiad hwn ond bydd te, coffi a lluniaeth yn cael eu gweini’n rheolaidd drwy gydol y dydd ac rydym yn annog mynychwyr i ddod â’u pecynnau bwyd eu hunain os byddai’n well ganddynt wneud hynny.

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i fynychu neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am hygyrchedd ar gyfer y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni drwy enquiries@llafur.org.

Archebwch eich tocyn rhad ac am ddim yma: https://www.eventbrite.com/e/2005025557416?aff=oddtdtcreator