Darlith Llafur: Caradog, y Côr Mawr a’u heffaith ar hanes diwylliannol Cymru
Amgueddfa Cwm Cynon, Ffordd Depot, Aberdâr, CF44 8DL
Digwyddiad Dyddiad: 02/07/2022
Caradog, y Côr Mawr a’u heffaith ar hanes diwylliannol Cymru
150 mlynedd ar ôl perfformiad Côr Mawr Caradog yn y Crystal Palace ar Orffennaf 4ydd 1872, ymunwch â Llafur a’n siaradwr gwadd, Yr Athro Trevor Herbert (Y Brifysgol Agored), i gael gwybod mwy am stori Caradog, Y Côr Mawr, a’u heffaith hirdymor a pharhaol ar ddiwylliant Cymru. Yn cynnwys sgwrs gyda Yr Athro Gareth Williams a sesiwn holi ac ateb.
Digwyddiad wyneb yn wyneb fydd hwn yn Amgueddfa Cwm Cynon, Aberdâr, Ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf (10.30 y bore tan hanner dydd).
I archebu lle yn rhad ac am ddim, bydd angen i chi gofrestru trwy Eventbrite gan ddefnyddio’r ddolen isod:
Pwysig – Nodwch taw uchafswm o 25 o leoedd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn felly archebwch cyn gynted â phosib os hoffech fod yno. Bydd rhestr aros ar gyfer y digwyddiad.
Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â ni ar enquiries@llafur.org