Cynhadledd ‘Shaping the Labour Party’

Digwyddiad Lleoliad:
Prifysgol Bangor


Digwyddiad Dyddiad: 23/03/2015 - 24/03/2015
Dechrau Digwyddiad: 7/4/16 10:00 am Diwedd y Digwyddiad: 7/4/16 03:45 pm


I gofio 70 mlynedd ers ethol y llywodraeth Lafur gyntaf gyda mwyafrif clir yn 1945, bydd yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd ar hanes y Blaid Lafur. Teitl y gynhadledd fydd ‘Shaping the Labour Party’.

Bydd y gynhadledd hon yn edrych ar y themâu a’r dylanwadau sydd wedi ffurfio natur a chyfeiriad y Blaid ers ei dechreuadau cynnar. Bydd yn canolbwyntio nid yn unig ar y blaid seneddol, ond hefyd ar y blaid ehangach, mudiadau llafur a grwpiau ac unigolion eraill sydd wedi dylanwadu ar bolisi a chyfeiriad y blaid, mewn llywodraeth ac fel gwrthblaid. Rydym yn croesawu papurau ar unrhyw agwedd ar hanes y Blaid Lafur, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddylanwadau, gweithredoedd a digwyddiadau sydd wedi bod yn fodd i ffurfio a datblygu polisi.

http://labour-history.bangor.ac.uk/index.php

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: labourhistory@bangor.ac.uk