Gwobr Traethawd Ieuan Gwynedd Jones 2021
10/04/2021Mae’n bleser gan Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru gyhoeddi Gwobr Traethawd Ieuan Gwynedd Jones
Roedd yr Athro Ieuan Gwynedd Jones (1921-2018) yn un o haneswyr cymdeithasol mwyaf craff Cymru. Mae ei waith ymchwil ar hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru Oes Fictoria a gasglwyd yn y cyfrolau Explorations and Explanations (1981), Communities (1987) a Mid-Victorian Wales: The Observers and the Observed (1992), yn parhau i fod yn ddeunydd darllen hanfodol i haneswyr y cyfnod modern yng Nghymru.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i awduron nad ydynt eto wedi cyhoeddi eu gwaith, a gwahoddir traethodau ar unrhyw agwedd ar hanes cymdeithasol neu ddiwylliannol Cymru (gan gynnwys hanes llafur, hanes diwylliant gwleidyddol, hanes menywod, hanes rhywedd a hanes lleiafrifoedd). Dylai traethodau fod rhwng 6,000 ac 8,000 o eiriau (gan gynnwys troednodiadau yn dilyn fformat arferol y cylchgrawn) a gellir eu cyflwyno yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Rhaid eu hanfon at olygyddion Llafur erbyn diwedd mis Mehefin 2021 trwy ebost: editor@llafur.org.
Cyhoeddir y traethawd buddugol yn Llafur, a bydd yr awdur yn derbyn gwobr ariannol o £100 (neu lyfrau yn gyfwerth) ynghyd â blwyddyn o aelodaeth Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru yn rhad ac am ddim. Mae Llafur yn gylchgrawn sydd wedi ei adolygu gan gymheiriaid.