Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith – Galwad am Bapurau

28/04/2021

Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith / Imagining History: Wales in fiction and fact

Cynhadledd 12-13 Tachwedd 2021 yn Amgueddfa Pontypridd a Phrifysgol De Cymru

NEU yn rhithiol, yn dibynnu ar y pandemig

Galwad am Bapurau

Mae hanesion wedi’u dychmygu ar ffurf ffuglen hanesyddol, ffilmiau neu raglenni teledu yn aml wrth galon sut yr ydym yn meddwl am ein hunaniaethau cenedlaethol a phersonol.* Mae naratifau hanesyddol yn seiliedig ar ‘ffaith’ bob amser wedi ffurfio sut yr ydym yn meddwl am ein cenedl, ein cymunedau a ni’n hunain ond maent droeon yn unochrog, yn anghyflawn neu wedi’u hystumio gan fuddiannau breintiedig neilltuol. Mae gweithiau ffuglennol hanesyddol yn caniatáu i ni ail-ddychmygu’r naratifau hyn, llenwi’r bylchau a’r mannau mud yn yr hanes sydd wedi’i gofnodi. Gallant ein cynorthwyo i ddychmygu hanesion amgen yn ogystal â dyfodol newydd.

Mae awduron fel Raymond Williams, Elaine Morgan, Angharad Price, Catrin Collier, R Cyril Hughes, Owen Sheers, Hilda Vaughan, Christopher Meredith, William Owen Roberts, Gwyn Thomas, Stevie Davies, Gwynn ap Gwilym, Bruce Chatwin, Margiad Evans, Marion Eames, Jerry Hunter, Siân James a T Llew Jones wedi rhoi i ni weithiau ffuglennol dylanwadol iawn am y gorffennol, a rhai hynod boblogaidd yn fynych. Mae rhai gweithiau ffuglennol yn bodoli mewn tensiwn cymhleth, a dadleuol weithiau, gyda hanesyddiaeth prif ffrwd.

Mae trefnwyr y gynhadledd yn gwahodd cyfraniadau ar unrhyw bwnc sy’n ymwneud â dychmygu hanesion Cymru. Gwahoddwn gyfraniadau ar draws disgyblaethau, cyfnodau hanesyddol, ac ymdriniaethau methodolegol. Gall pynciau gynnwys (ond nis cyfyngir i hyn o gwbl):

  • Ffuglen hanesyddol a’r ‘genedl a ddychmygir’
  • Hanesion lleol/byd-eang
  • Hil/rhyw/dosbarth a hanesion wedi’u dychmygu
  • Dychmygu hanesion amgen
  • Ffilm/teledu hanesyddol
  • Diogelu’r gorffennol
  • Amgueddfeydd/archifau a ffuglen/ffilm hanesyddol
  • Iaith a hanesion wedi’u dychmygu

Dylid cyflwyno crynodeb 250 gair ar gyfer papurau ugain munud ynghyd â bywgraffiad byr (dwy frawddeg) i diana.wallace@southwales.ac.uk erbyn 1 Gorffennaf 2021.

Ein bwriad yw peidio â chyfyngu’r gynhadledd i gynulleidfa academaidd ond i annog cyfranwyr i feddwl yn nhermau darlithoedd a fydd yn ymestyn allan i gynulleidfa ehangach. Croesewir papurau yn Saesneg ac yn Gymraeg. Croesewir cynigion ar gyfer paneli o dri phapur ugain munud a phapurau trawsddisgyblaethol hefyd.

Oherwydd y pandemig rydym yn ystyried dulliau amrywiol o gyflwyno’r gynhadledd. Gall hyn fod yn gynhadledd wyneb yn wyneb draddodiadol; cynhadledd gymysg wyneb yn wyneb / yn rhithiol; neu yn gynhadledd rithiol.

Trefnwyr: Prifysgol De Cymru; Cymdeithas Llên Saesneg Cymru; Llafur, Archif Menywod Cymru/Women’s Archive Wales ac Amgueddfa Pontypridd.

*Ar gyfer y gynhadledd hon awgrymwn fel man cychwyn ddiffiniad o ‘ffuglen hanesyddol’ fel testun (e.e. nofel/ffilm/rhaglen deledu) sydd wedi ei osod gryn dipyn o amser cyn iddo gael ei gynhyrchu, o leiaf 50-60 mlynedd gan amlaf, neu cyn geni’r awdur.

Dychmygu Hanes Galwad am Bapurau CYMRAEG