Digwyddiad Llafur Ar-Lein & CCB 2022 – ‘rhaid i’r glowyr gael cyfiawnder!’: Ȏl-effeithiau a Chanlyniadau Streic y Glowyr 1972

Digwyddiad Lleoliad:
Online


Digwyddiad Dyddiad: 03/12/2022
Dechrau Digwyddiad: 3/12/22 09:30 am Diwedd y Digwyddiad: 3/12/22 12:30 pm


Mae Llafur yn eich gwahodd i’n digwyddiad ar-lein diweddaraf a CCB 2022.

Ymunwch â Llafur a’r siaradwyr gwadd Ben Curtis, Emily Ingram ac Ewan Gibbs  ar gyfer ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022 i goffàu 50 mlynedd ers streic y glowyr 1972 ac i drafod arwyddocâd hirdymor ymgyrch ddiwydiannol y flwyddyn honno.

Rhaglen lawn:

9:30-9:35 – Cyflwyniad

9:35-9:40 – Diweddariad PEN Cymru gan Angela V. John

9:40-9:55 – Dyfarnu Gwobr Traethawd Ieuan Gwynedd Jones

9:55-10:00 – Cyflwyno siaradwyr

10:00-10:25 – “We have just written some glorious pages in the history of the miners”: The 1972 Miners’ Strike and the South Wales Coalfield – Ben Curtis

10:25-10:50 – Voices of ’72: community history and the power of testimonials – Emily Ingram

10:50-11:15 – An Energy History of the 1972 Miners’ Strike – Ewan Gibbs

11:15-11:30 – Holi ac ateb

11:30–11:45 – Toriad byr

11:45-12:30 – Cyfarfod Blynyddol

12:30 – Diwedd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar Zoom. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Evenbrite, gan ddefnyddio’r cyswllt isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/llafur-online-event-agm-2022-digwyddiad-llafur-ar-lein-ccb-2022-tickets-465817361267

Unwaith eich bod wedi cofrestru, fe ddanfonir manylion o’r cyfarfod a’r cyfrinair ato chi.