Sesiynau Panel Pererindod Heddychwyr 1926 – Myfyrdodau o Langollen a Manylion ein Panel Nesaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol
03/08/2026Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd sesiwn Academi Heddwch Cymru a Llafur i nodi canmlwyddiant Pererindod Heddychwyr 1926 ddydd Gwener y 10fed o Orffennaf. Roedd yn wych gweld pawb yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ymuno mewn trafodaethau am yr ymgyrch heddwch arwyddocaol hon dan arweiniad menywod, a sut gall eu hymgyrchu ysbrydoli gweithredu yn y byd sydd ohoni heddiw. Diolch o galon i’n panel – Annie Williams, Heather Aspinwall, Dr Siân Rhiannon Williams a’r cadeirydd Anna-Jane Evans am ddod â hanesion yr arloeswyr rhyfeddol hyn yn fyw, yn lleol ac yn genedlaethol.
Os gwnaethoch chi ein methu ni yn Llangollen, mae’n llawenydd i ni gyhoeddi y byddwn yn cynnal ail banel yn yr Eisteddfod Genedlaethol ymhen ychydig ddyddiau. Manylion llawn isod:

Pererindod Heddwch Menywod 1926 – trafodaeth banel dan ofal Academi Heddwch Cymru a Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.
Ymunwch â ni am drafodaeth banel i ddathlu canmlwyddiant Pererindod Heddwch Menywod 1926.
Yn ystod tymor yr haf 1926, gorymdeithiodd degau o filoedd o fenywod o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ganol Llundain dan y faner ‘Hedd nid Cledd’, gan annog llywodraeth Prydain i ymrwymo i gyflafareddu rhyngwladol a diarfogi cyffredinol. Cerddodd yr ymgyrchwyr heddwch hyn trwy bentrefi a threfi, gan drefnu dros fil o gyfarfodydd a ralïau ar hyd y ffordd i rannu eu gweledigaeth o fyd heb ryfel.
Dysgwch am hanes rhyfeddol y Bererindod Heddwch mewn cyd-destun Cymreig wrth i ni glywed cyfraniadau gan ein panelwyr Dr Siân Rhiannon Williams, Angharad Tomos ac Anna Jane Evans ar hanes gorymdaith gogledd Cymru – heb os, carfan fwyaf y Bererindod; hanesion cudd y llwybr llai adnabyddus o dde Cymru i Lundain ac, yn olaf, pwysigrwydd cofio a gwireddu neges y Bererindod heddiw.
Ble a phryd: 06.08.26, Cymdeithasau 1, Eisteddfod y Garreg Las, Llantwt. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd (Cymraeg i Saesneg).
Mae tocynnau Eisteddfod ar gael yma: https://eisteddfod.ticketsrv.co.uk/product-collection/3

