Pererindod Heddwch Menywod 1926 – Trafodaeth Banel (Academi Heddwch Cymru a Llafur)

Digwyddiad Lleoliad:
Cymdeithasau 1, Eisteddfod y Garreg Las, Llantwt


Digwyddiad Dyddiad: 06/08/2026
Dechrau Digwyddiad: 6/8/26 11:00 am Diwedd y Digwyddiad: 6/8/26 11:45 am


Ymunwch â ni am drafodaeth banel i ddathlu canmlwyddiant Pererindod Heddwch Menywod 1926.
 
Yn ystod tymor yr haf 1926, gorymdeithiodd degau o filoedd o fenywod o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ganol Llundain dan y faner ‘Hedd nid Cledd’, gan annog llywodraeth Prydain i ymrwymo i gyflafareddu rhyngwladol a diarfogi cyffredinol. Cerddodd yr ymgyrchwyr heddwch hyn trwy bentrefi a threfi, gan drefnu dros fil o gyfarfodydd a ralïau ar hyd y ffordd i rannu eu gweledigaeth o fyd heb ryfel.
 
Dysgwch am hanes rhyfeddol y Bererindod Heddwch mewn cyd-destun Cymreig wrth i ni glywed cyfraniadau gan ein panelwyr Dr Siân Rhiannon Williams, Angharad Tomos ac Anna Jane Evans ar hanes gorymdaith gogledd Cymru – heb os, carfan fwyaf y Bererindod; hanesion cudd y llwybr llai adnabyddus o dde Cymru i Lundain ac, yn olaf, pwysigrwydd cofio a gwireddu neges y Bererindod heddiw.

Ble a phryd: 06.08.26, Cymdeithasau 1, Eisteddfod y Garreg Las, Llantwt. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd (Cymraeg i Saesneg).

Mae tocynnau Eisteddfod ar gael yma: https://eisteddfod.ticketsrv.co.uk/product-collection/3