Pererindod Heddwch Menywod 1926 – Trafodaeth Banel (Academi Heddwch Cymru a Llafur)

Digwyddiad Lleoliad:
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen (The Globe Stage)


Digwyddiad Dyddiad: 10/07/2026
Dechrau Digwyddiad: 10/7/26 02:45 pm Diwedd y Digwyddiad: 1/7/26 03:45 pm


Ymunwch â ni am drafodaeth banel dwyieithog i ddathlu canmlwyddiant Pererindod Heddwch Menywod 1926.

Yn ystod tymor yr haf 1926, gorymdeithiodd degau o filoedd o fenywod o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ganol Llundain dan y faner ‘Hedd nid Cledd’, gan annog llywodraeth Prydain i ymrwymo i gyflafareddu rhyngwladol a diarfogi cyffredinol. Cerddodd yr ymgyrchwyr heddwch hyn trwy bentrefi a threfi, gan drefnu dros fil o gyfarfodydd a ralïau ar hyd y ffordd i rannu eu gweledigaeth o fyd heb ryfel.

Dysgwch am hanes rhyfeddol y Bererindod Heddwch mewn cyd-destun Cymreig wrth i ni glywed cyfraniadau gan ein panelwyr Dr Siân Rhiannon Williams, Annie Williams a Heather Aspinwall ar hanes gorymdaith gogledd Cymru – heb os, carfan fwyaf y Bererindod; ei gweithgaredd lleol yn Llangollen ac, yn olaf, hanesion cudd y llwybr llai adnabyddus o dde Cymru i Lundain.

Ble a phryd: 10.07.26, The Globe Stage, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd (Cymraeg i Saesneg).

Mae tocynnau Eisteddfod ar gael yma: https://international-eisteddfod.co.uk/cy/events/friday-10th-july-daytime-on-the-pavilion/