Digwyddiad Llafur Ar-Lein & CCB – Streiciau, Cloi Allan ac Atgofion ar y cyd: Cofio 1921 a 1926

event Wedi'i gynnal 27/11/2021

Wrth adlewyrchu ar ei fywyd ifanc yn Nhredegar yn In Place of Fear (1952), crynhodd Aneurin Bevan ei brofiadau o streic 1926 fel ‘gwylio ffilm yn dadlenni roeddwn eisioes wedi ei gweld yn cael ei gwneud’. Mae dehongliad Bevan yn pwyntio at gysylltiad cynhenid rhwng digalondid y glowyr yn 1926 a’r trechiad trychinebus o’r cloi a flaenorodd hyn yn 1921. Mae ei ddarluniad yn awgrymu at gynhyrchu atgof ar y cyd o atgofion y maes glo yn y degawdau a ddilynodd yr 1920’au cythryblus. Canrif ar ôl y cloi yn 1921, mae croeso i chi ymuno â ni a’n siaradwr gwadd, David Selway, i archwilio y berthynas rhwng 1921 a 1926, a dadorchuddio sut mae atgofion unigolion o’r ddau wedi bod yn ganolog i ffurfio ac ail ffurfio naratif hanesyddol y brwydro diwydiannol ym Maes glo De Cymru.