Cyfres Gwanwyn Llafur 2021 – Pennod 4: Sefydliad y Congo a’i Myfyrwyr

event Wedi'i gynnal 03/04/2021

Mae’r bennod nesaf hon yng nghyfres Llafur yn canolbwyntio ar ddatblygiad ac effaith Sefydliad y Congo ym Mae Colwyn. Wedi’i sefydlu ym 1890 gan y cenhadwr a’r gweinidog Parch. William Hughes, cynlluniwyd y Sefydliad i ddarparu prentisiaeth mewn anghydffurfiaeth grefyddol a chyfleoedd ar gyfer addysg dechnegol i fyfyrwyr o wahanol ranbarthau yn Affrica. Er iddi gau ym 1911, parhaodd etifeddiaeth y Sefydliad trwy ei myfyrwyr, a ddychwelodd adref i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgon nhw o’u hamser yng Ngogledd Cymru. Er mwyn deall arwyddocâd y Sefydliad, ac i ganolbwyntio ar fywydau’r myfyrwyr a gafodd eu tiwtora ym Mae Colwyn, rydym yn croesawu siaradwyr gwadd Marian Gwyn a Norbert Mbu-Mputu am archwiliad o’r stori drawswladol gymhleth hon.