Sgwrs am Windrush
Ar lein
Digwyddiad Dyddiad: 28/06/2023
Ym mis Mehefin 1948, mentrodd dros 1000 o ddinasyddion Prydeinig ar daith hir o’r Caribî ar fwrdd yr Empire Windrush gyda’r bwriad a’r gobaith o adeiladu bywyd newydd ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Dros y degawdau nesaf, byddai miloedd yn rhagor o bobl yn cyrraedd o wledydd y Caribî i greu bywyd newydd iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd ledled Prydain ac yma yng Nghymru. 75 mlynedd wedi’r daith gyntaf, ymunwch â ni am sgwrs ar fywydau ac etifeddiaeth cenhedlaeth y Windrush. Bydd y sgwrs dan gadeiryddiaeth Gaynor Legall a gyda hi bydd y siaradwyr gwadd Audrey West, Molara Awen a Natalie Jones.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar Zoom. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Evenbrite, gan ddefnyddio’r cyswllt isod:
https://www.eventbrite.co.uk/e/a-conversation-on-windrush-sgwrs-am-windrush-tickets-648423029737
Unwaith eich bod wedi cofrestru, fe ddanfonir manylion o’r cyfarfod a’r cyfrinair ato chi.
Ffotograff: National Windrush Monument at Waterloo station, London CC BY-SA 4.0