Digwyddiad Llafur Ar-lein – ‘Hebryngydd gogoneddus cymdeithas newydd’: Comiwn Paris a’i Etifeddiaeth

Digwyddiad Lleoliad:
Ar-lein


Digwyddiad Dyddiad: 27/05/2021
Dechrau Digwyddiad: 27/5/21 07:00 pm Diwedd y Digwyddiad: 27/5/21 08:15 pm


Ar y 18fed o Fawrth 1871, cipiodd Pwyllgor Canolog y Comiwn ddinas Paris, gan reoli prifddinas Ffrainc am saith deg a dau o ddiwrnodau cyn dioddef cwymp gwaedlyd a marwol ar yr 28ain o Fai. Tarddodd y gwrthryfel, a gynhwysai sosialwyr, ffeminyddion a radicaliaid, o’r 18fed arrondissement Montmartre, gan fywiogi a symbylu Marx, Engels a sosialwyr eraill ar hyd a lled y byd. Ym Mhrydain, dathlwyd a chwestiynwyd posibiliadau proletaraidd grymus y Comiwn. Byddai’r effaith yn parhau am genedlaethau, ac mae etifeddiaeth y Comiwn a’r Comiwnwyr ill dau, yn dal yn fyw heddiw. Ymunwch â ni  i wrando ar Laura Foster, ein siaradreg wadd, yn darlithio ar effaith hirdymor Comiwn Paris yn y cyd-destun Cymreig a Phrydeinig.

Cynhelir y digwyddiad hwn er cof am Ken John.

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Evenbrite, gan ddefnyddio’r cyswllt isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/llafur-online-event-paris-communedigwyddiad-llafur-arlein-comiwn-paris-tickets-153698062041

Unwaith eich bod wedi cofrestru, fe ddanfonir manylion o’r cyfarfod a’r cyfrinair ato chi.