Digwyddiad Llafur Ar-Lein & CCB – Streiciau, Cloi Allan ac Atgofion ar y cyd: Cofio 1921 a 1926

Digwyddiad Lleoliad:
Ar-lein


Digwyddiad Dyddiad: 27/11/2021
Dechrau Digwyddiad: 27/11/21 09:30 am Diwedd y Digwyddiad: 27/11/21 12:30 pm


Mae Llafur yn eich gwahodd i’n digwyddiad ar-lein diweddaraf a CCB 2021.

Wrth adlewyrchu ar ei fywyd ifanc yn Nhredegar yn In Place of Fear (1952), crynhodd Aneurin Bevan ei brofiadau o streic 1926 fel ‘gwylio ffilm yn dadlenni roeddwn eisioes wedi ei gweld yn cael ei gwneud’. Mae dehongliad Bevan yn pwyntio at gysylltiad cynhenid rhwng digalondid y glowyr yn 1926 a’r trechiad trychinebus o’r cloi a flaenorodd hyn yn 1921. Mae ei ddarluniad yn awgrymu at gynhyrchu atgof ar y cyd o atgofion y maes glo yn y degawdau a ddilynodd yr 1920’au cythryblus. Canrif ar ôl y cloi yn 1921, mae croeso i chi ymuno â ni a’n siaradwr gwadd, David Selway, i archwilio y berthynas rhwng 1921 a 1926, a dadorchuddio sut mae atgofion unigolion o’r ddau wedi bod yn ganolog i ffurfio ac ail ffurfio naratif hanesyddol y brwydro diwydiannol ym Maes glo De Cymru.

Rhaglen

  • 9.30am – Cyflwyniad
  • 9.35am – Dyfarnu Gwobr Traethawd Ieuan Gwynedd Jones
  • 10am – Darlith – Streiciau, Cloi Allan ac Atgofion ar y cyd: Cofio 1921 a 1926 – David Selway
  • 11.15am – Toriad byr
  • 11.30am – Cyfarfod Blynyddol
  • 12.30pm – Diwedd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar Zoom. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Evenbrite, gan ddefnyddio’r cyswllt isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/llafur-online-event-1921-and-1926digwyddiad-llafur-ar-lein-1921-and-1926-tickets-207362746557

Unwaith eich bod wedi cofrestru, fe ddanfonir manylion o’r cyfarfod a’r cyfrinair ato chi.