Cynhadledd Llafur – Sicrhau Cadarnle? Etholiad 1922 a Datblygiad Gwleidyddol Cymru
Darlithfa Syr Stanley Thomas, Canolfan Bywyd Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3BB
Digwyddiad Dyddiad: 29/10/2022
Gyda chanlyniad Etholiad Cyffredinol 1922, mae map etholiadol Cymru wedi symud i gyfeiriad newydd. Ciliodd goruchafiaeth y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru a daeth y Blaid Llafur i’r amlwg fel y prif rym yng ngwleidyddiaeth etholiadol Cymru. Ar ôl 1922, mae Llafur wedi dychwelyd y nifer fwyaf o ASau o Gymru ym mhob etholiad hyd at yr ornest etholiadol ddiweddaraf yn 2019.
Mae hefyd yn bwysig archwilio Etholiad 1922 drwy lensys lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yng nghyd-destun economaidd ehangach a thrawsnewidiadau gwleidyddol a oedd eisoes yn dechrau ail-lunio gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd a thu hwnt.
Ar 29 Hydref ymunwch â Llafur wrth i ni archwilio effaith Etholiad Cyffredinol 1922 a’i etifeddiaeth ar wleidyddiaeth fodern Cymru. Gan gynnwys cyfraniadau gan siaradwyr gwadd yr Athro Syr Deian Hopkin, Dr Stephanie Ward, Dr Sue Demont, yr Athro Chris Williams a mwy. Rhaglen yma.
Cynhelir y digwyddiad hwn ar y cyd â Llafur100 a’r gyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Llafur Cymru sydd wedi bod yn cael eu cynnal drwy gydol 2022 i goffau canmlwyddiant Etholiad 1922.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn bersonol, mae’n rhad ac am ddim i’w fynychu ac estynnir croeso cynnes i bawb.
I archebu lle yn rhad ac am ddim, bydd angen i chi gofrestru trwy Eventbrite gan ddefnyddio’r ddolen isod:
Sylwch na fydd cinio’n cael ei ddarparu fel rhan o’r digwyddiad hwn ond bydd te, coffi a lluniaeth yn cael eu gweini’n rheolaidd drwy gydol y dydd ac rydym yn annog mynychwyr i ddod â’u pecynnau bwyd eu hunain os byddai’n well ganddynt wneud hynny.
Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â ni ar enquiries@llafur.org