Cynhadledd Ar-lein – Dychmygu Hanes: Cymru mewn Ffuglen a Ffaith / Imagining History: Wales in Fiction and Fact

Digwyddiad Lleoliad:
A gynhelir ar-lein gan Brifysgol De Cymru - Gydag arddangosfa yn Oriel y Bont, Prifysgol De Cymru


Digwyddiad Dyddiad: 12/11/2021 - 13/11/2021
Dechrau Digwyddiad: 12/11/21 09:00 am Diwedd y Digwyddiad: 13/11/21 07:45 pm


Picture

Mae hanesion wedi’u dychmygu ar ffurf ffuglen hanesyddol, ffilmiau neu raglenni teledu yn aml wrth galon sut yr ydym yn meddwl am ein hunaniaethau cenedlaethol a phersonol. Mae naratifau hanesyddol yn seiliedig ar ‘ffaith’ bob amser wedi ffurfio sut yr ydym yn meddwl am ein cenedl, ein cymunedau a ni’n hunain ond maent droeon yn unochrog, yn anghyflawn neu wedi’u hystumio gan fuddiannau breintiedig neilltuol.  Mae gweithiau ffuglennol hanesyddol yn caniatáu i ni ail-ddychmygu’r naratifau hyn, llenwi’r bylchau a’r mannau mud yn yr hanes sydd wedi’i gofnodi. Gallant ein cynorthwyo i ddychmygu hanesion amgen yn ogystal â dyfodol newydd.

​Bydd y gynhadledd hon yn archwilio’r ffyrdd y mae ffuglen o’r fath yn bodoli mewn tensiwn cymhleth ac weithiau dadleuol gyda hanesyddiaethau prif ffrwd.

Prif Baneli

  • Y Castell SiwgrCymru a chaethwasiaeth  trawsiwerydd – Mae nofel Angharad Tomos Y Castell Siwgr yn dweud hanes y cysylltiadau trawsiwerydd rhwng Castell y Penrhyn a’r planhigfeydd yn Jamaica. I drafod y nofel ac i archwilio materion ehangach caethwasiaeth bydd yr Athro Chris Evans (Prifysgol De Cymru), Audrey West a Dr Marian Gwyn (Pennaeth Treftadaeth, Race Council Cymru) yn ymuno ag Angharad. At hyn ceir darlleniad o’r nofel gan Mirain Iwerydd.
  • Y Cymry yn yr Wcráin: Ffaith a Ffuglen – hanes John Hughes o Ferthyr a’r ddinas a sefydlodd yn yr Wcráin ac a ysbrydolodd y gyfres deledu dair rhan Hughesovka and the New Russia a thrioleg Catrin Collier, The Tsar’s Dragons. Bydd Dr James Phillips (Llafur) yn siarad â’r nofelydd Catrin Collier a Colin Thomas, cyfarwyddwr y gyfres deledu.
  • Panel Raymond Williams: Troi Hanes yn Ffuglen –  bydd gwaith dylanwadol y damcaniaethwr a’r nofelydd hanesyddol Raymond Williams, awdur The People of the Black Mountains, yn cael ei drafod gan yr hanesydd a’r awdur Rhian E. Jones, bywgraffydd Williams, yr hanesydd a’r nofelydd yr Athro Dai Smith, a’r Athro Daniel Williams (Prifysgol Abertawe). Cadeirir gan yr Athro Diana Wallace (Prifysgol De Cymru).
  • How Green Was My Valley (BBC, 1975-6) – ymunwch â ni am ddangosiad o bennod o addasiad y BBC o nofel Richard Llewelyn, 1939, wedi ei gosod yn oes Victoria (trwy ganiatâd caredig y BBC); gyda chyflwyniad gan yr actores Sue Jones Davies (a chwaraeodd ran Angharad Morgan yng nghyfres y BBC) a cyd-destunoli gan yr hanesydd yr Athro  Angela V. John. DIWEDDARIAD: Oherwydd pryderon am y newidiadau sydd ar y gweill yn y cyfyngiadau Covid, ni fydd y digwyddiad hwn yn digwydd yn bersonol mwyach. Bydd nawr yn digwydd ar-lein. Os ydych wedi archebu ar gyfer y brif gynhadledd, bydd dolen ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost felly nid oes angen archebu ar gyfer y digwyddiad ar wahân.

​Gweler y rhaglen ddrafft lawn yma

Manylion

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Evenbrite, gan ddefnyddio’r cyswllt isod: https://www.eventbrite.co.uk/e/imagining-history-dychmygu-hanes-online-conference-ar-lein-tickets-198121997227

Bydd y digwyddiadau ar-lein yn cael eu cyflwyno drwy Zoom a Microsoft Teams. Byddwch yn derbyn e-bost atgoffa, gan gynnwys dolen i ymuno a manylion am sut i ddefnyddio Zoom/Teams cyn y digwyddiad.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Yr Athro Diana Wallace a/neu Dr James Phillips.

Trefnwyr a Noddwyr

Trefnwyr: Brifysgol De Cymru, Cymdeithas Llên Saesneg Cymru, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, Archif Menywod Cymru, a Amgueddfa Pontypridd.

Noddwyr: Cefnogir y digwyddiad yn garedig gan Brifysgol De Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Archif Menywod Cymru, a Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.

Imagining History conference sponsor logos.jpg