Cyfres Gwanwyn Llafur 2022: Etifeddiaeth, Tirwedd a Thwristiaeth

Digwyddiad Lleoliad:
Ar-lein


Digwyddiad Dyddiad: 24/03/2022
Dechrau Digwyddiad: 24/3/22 07:00 pm Diwedd y Digwyddiad: 24/3/22 08:00 pm


Pennod 2: Gwyliau Gweithwyr a Gwyliau Glan Môr

O Landudno a’r Rhyl yn y gogledd, i’r Barri a Phorthcawl yn y de, mae Cymru yn llawn o draddodiad mannau gwyliau glan môr. Roeddynt yn aml yn fannau cwrdd trefol pwysig, a ‘mannau cymdeithasol’ yn ôl Andy Croll, roedd y llefydd hyn hefyd, yn rhannol, yn sgil-gynhyrchion o ymgyrchoedd lletach ar gyfer gwyliau gweithwyr a ddechreuodd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth edrych ar Ogledd Cymru yn arbennig, ymunwch â ni a’n siaradwyr gwadd Susan Barton a Debbie Owen am fewnwelediad o hanes a threftadaeth mannau gwyliau glan môr a thwristiaeth boblogaidd.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar Zoom. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Evenbrite, gan ddefnyddio’r cyswllt isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/workers-holidays-seaside-resorts-gwyliau-gweithwyr-gwyliau-glan-mor-registration-294604208117

Ar ôl i chi gofrestru i fynychu digwyddiad, mi fyddwn ni yn anfon dolen y digwyddiad atoch trwy e-bost.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ar enquiries@llafur.org