|
ADRODDIAD Y GADAIR
Alun Burge
Wrth i mi lunio’r nodyn yma, mae ddau sylw yn cyd-chwarae, un ynglŷn â llwyddiant ein cyfarfod ym mis Mawrth i glywed cynnig CyMAL ynglŷn â Casgliad Hanes y Pobol ac, yn ail, y colled rydym ni oll yn ei deimlo ar farwolaeth ein ffrind, chwaer a cymrawd, Ursula Masson. Cafwyd teyrngedau, a ceir mwy, gan Llafur ac eraill, felly byddaf yn cyfyngu fy sylwadau i ddweud yr oedd Ursula yn adlewyrchu ysbryd Llafur i’r dim – roedd hi’n gydradd gweithredydd ac hanesydd, yn gymaint hanesydd ag yr oedd hi’n gweithredydd. Roedd hi’n sylweddoli pwysigrwydd perthynas y gorffennol a’r presennol trwy weithred ynghŷd a syniad, a’r cyfraniad roedd y ddau yn eu wneud at ffurfio’r dyfodol. Roedd ei waith hi yn dysgu hanes menywod yn ymwneud yn uniongyrchol ac achosion y presennol: mae Archif Menywod Cymru, sy’n gael ei ystyried gan Llafur fel chwaer-sefydliad, yn teyrnged i’w weledigaeth, ymroddiad ac egni. Cafwyd cynrychioliad dda gan y Gymdeithas yn y Ddathliad o’i Bywyd, a trawyd pawb yna gan ddyfnder ac ehangder ei bywyd. I mi, y ran mwyaf trawiadol oedd pan soniodd un cyfranydd am iddi ddweud wrth Ursula, ac oedd erbyn hynny yn ddifrifol wael, na fyddai cydraddoldeb o ran gynrychioliad menywod o fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Cabinet oni bai am ei waith hi yng Nghanolfan Menywod Abertawe, ar y llinellau piced yn ystod streic y glowyr 1984-5, yng Nghomin Greenham, ac yn mannau eraill. Atebodd Ursula ‘Ie, mae pob darn bach yn cyfru’. Yn yr ysbryd yna rydym yn cyfarch Ursula, ac yn barhau i weithio yn y modd y byddai Ursulau eisiau.
‘Un darn bach’ y wnaethom ym mis Mawrth oedd trafod gyda CyMAL ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Casgliad Hanes y Pobol. Ceir adroddiad llawn ar hyn o fewn y cylchlythyr yma. Mae ‘darnau’ arall, ar hyn o bryd wrthi’n cael ei gynllunio, yn cynnwys ysgol-ddydd ar gyd-weithredu yn Nghymru, a paratoadau ar gyfer rhaglen i gydfynd a’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd. Thema’r diwrnod bydd chwaraeon, sydd yn ardal hollol newydd i Llafur, er bod hanesyddion Cymru yn cyhoeddi fwyfwy ar y pwnc. Cafwyd trafodaeth ynglyn a neulltio ddiwrnod at chwaraeon yng nghyfarfod o’r bwyllgor ym mis Ionawr, yn dilyn cynnig a gyflwynwyd i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd diwethaf. Gwnaed y cynnig yma cyn i Gaerdydd cyrraedd gem derfynol y Cwpan FA; cyn i Abertawe gael i’w ddyrchafu (a gwaetha’r modd Wrecsam yn cael i’w gostwng); cyn i Joe Calzage ennill clod mwy fyth o fewn y ring baffio, a cyn i Gymru ennill y Gamp Lawn. Rwy’n sicr bydd ein rhagweledigaeth, a’n lwc dda (sy’n anghenrheidiol ar gyfer pob menter ar y maes chwarae) yn cydnabod y fath llwyddiannau, ond hefyd yn ein arwain i gyfeiriadau eraill, llai confensiynol.
Mae ein gwefan (www.llafur.org) erbyn hyn yn rhedeg yn llwyddianus, ac yn cynnwys fersiwn electroneg o’n cylchlythyron ynghŷd â wybodaeth am ddigwyddiadau sydd wedi bod ac sydd eto i’w ddod, ein cyfnodolyn a newyddion arall am y gymdeithas. Rydym yn croesawu eich awgrymiadau ynglŷn â’r cynnwys – er engraifft, mae’r cylchlythyr erbyn hyn yn cynnig man delfrydol ar gyfer adolygiadau llyfrau.
I ddiweddu, hoffwn fel gymdeithas gwella ein cyfathrebiad gyda chi drwy gasglu eich cyfeiriadau e-bost. Bydd hyn yn caniatáu i ni ddosbarthau wybodaeth am gyfarfodydd a nodiadau eraill heb orfod danfon llythyron drwy’r post. O ganlyniad, bydd costau postio yn lleuhau, ynghŷd â’r amser sy’n gael i’w gymryd yn pecynnu amlennu. Byddwn yn danfon i chi dros ebost dim ond yr hyn rydym yn eich ddanfon atoch yn barod drwy’r post, a ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt gydag unrhyw un arall. Bydd ein cyfnodolyn, wrth gwrs, yn parhau i’w gael ei ddanfon atoch drwy’r post!
Os hoffech helpu’r Gymdeithas drwy dderbyn wybodaeth dros e-bost, a fyddwch mor garedig a ddanfon eich cyfeiriad at Sian Williams, Ysgrifennydd Llafur, s.f.williams@swansea.ac.uk
DIGWYDDIADAU DIWEDDAR:
Lansiad Gwefan Llafur
www.llafur.org
Lansiwyd gwefan Llafur yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 23ain Ionawr 2008. Roedd y digwyddiad yn un pleserus ac hamddenol, gyda help llaw mesur digonol o goch Llafur.
Ymhlith y nifer o Aelodau'r Cynulliad ag ymwelodd a'r lansiad, dyled nodi yn arbennig Christine Chapman, Leighton Andrews ac Andrew Davies. Christine cynhaliodd y digwyddiad, â hi groesawodd pawb a oedd yn bresennol. Mae hi'n aelod o Llafur, ac yn ymgymryd a'i hymchwil hanesyddol ei hun i menywod a'r mudiad llafur. Roedd hi'n bleser fod Andrew, aelod arall o Llafur, sydd ar hyn o bryd yn Gweinidog Cyllid yn Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi gallu aros gyda ni trwy'r digwyddiad. Siaradodd Leighton Andrews, Dirprwy Weinidog dros Adfywio, am sut y ddaeth yn ymwybodol o Llafur am y tro gyntaf tra'n myfyriwr is-raddedig ym Mangor. Yn ei ddisgrifiad ef o'r Gymdeithas, llwyddodd i gipio ei naws yr un mor dda ac y mae unrhyw un wedi llwyddo i'w wneud erioed. Tra'n ddisgrifio werthoedd y Gymdethas, siaradodd am ei haelondeb ysbryd, y 'gymuned eang' y mae'n crisialu, a'r potensial economaidd o gysylltu hanes ac adfywio. Mae'r thema yma yn un y gall y Gymdeithas a Leighton ddatblygu'n ffrwythlon iawn yn y dyfodol. Adolygodd Angela John, un o Is-Lywyddion y Gymdeithas a fu'n siarad dros Llafur, ar y cyfraniad mae'r Gymdeithas wedi ei wneud dros y pedwar degawd diwethaf. Neil Evans oedd yr 'M. C.' am y noson, ac fe tynodd y digwyddiad at derfyn trwy siarad am bresennol a dyfodol y Gymdeithas.
Mae'r Cynulliad yng Nghaerdydd yn carfan naturiol newydd ar gyfer ymrwymiad gyda Llafur. Hefyd, trwy'r gwefan, cawn ffurf newydd pwysig i adeiladu tuag at y dyfodol, trwy cynnig gwasanaethau mwy eang i'r aelodaeth a hefyd trwy ymestyn ar draws Cymru a'r byd...
‘The Policy of History’: Discussion on the Welsh Assembly Government’s proposal for a People’s History Collection
Glamorgan Building, Cardiff University
Ar 1 Mawrth trefnodd Llafur digwyddiad yng Nghaerdydd i ystyried syniadau cynnar CyMAL ar y cynnig yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymru’n Un, i ‘sefydlu Casgliad o Hanes Pobol Cymru, wedi’i gefnogi gan staff curadurol parhaol a fydd yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu’r casgliad’. Cyflwynodd Linda Tomos, Pennaeth CyMAL, cynnig i'w ystyried gan aelodau Llafur.
Esboniodd Linda eu bont yn edrych i greu gasgliad parhaol y byddai'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru trwy stori pobol arferol. Byddai'r deunydd dechreuol o bosib yn cynnwys hanesion cymunedau lleol, rhan menywod, chwaraeon, a profiadau a chyfraniadau mewnfudwyr ac allfudwyr. Bydd TG yn cael i'w ddefnyddio i'r eithaf er mwyn datblygu mynediad i'r casgliad ar-lein, gan gynnwys o bosib drwy safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, blogs, flicr a drwy 'second life'. Bydd yn rhyngweithiol ac yn fwriadol yn chwilio i apelio at pobol ifanc. Bydd y prosiect yn edrych i fanteisio ar yr hen a'r newydd, naill a'i drwy casgliadau hanes lafar sydd mewn bodolaeth yn barod neu drwy'r hanesion digidol sydd wrthi'n cael i'w greu. Gwelodd hi fod potensial democrateiddio yn y dull yma.
Roedd y trafodaeth yn eang iawn, pa un ai ar bwysigrwydd digwyddiad o fewn hanes, y berthynas potensial rhwng y menter yma a digwyddiadau o fewn adfywio cymunedol ac economaidd, neu cysylltiadau i'r sector treftadaeth. Rhoddwyd sylw hefyd i sut y gellir ymestyn diddordeb cyfredol mewn hanes teulu at materion hanesyddol ehangach, y bosibilrwydd o ddefnyddio 'iechyd' fel thema, os dylai ehangu chwaraeon i gynnwys diwylliant neu hamdden hefyd, a ddefnydd ieithoedd. Cafwyd trafodaeth hir ar sut y ddylwyd ystyried menywod, o bosib trwy gwaith, fel rhan o'r agenda cydraddoldeb ehangach lle y gellir cynnwys gogwydd rhywiol hefyd, neu fel rhan o bersbectif fwy ar rhyw. Rhoddwyd sylw hefyd i maes eang y fenter, y reidrwydd o fynegeio'r adnodd fel ei bod yn chwiliadwy, ac (ymhlith nifer eraill) hawlfraint a caniatâd. Nid oedd gan rheini a oedd yn bresennol unrhyw cwyn ynglyn a'r cysyniad fel ei amlinellwyd. Awgrymwyd nifer helaeth o adnoddau, cydweithwyr a chyfryngau bosib. Cafwyd awgrymiadau ynglyn a cangau gwaith / themau a sut y gellir roi strwythur i'r methodoleg cysylltiedig. Cymeradwywyd y thema o fewnfudo ac allfudo.
Angela John, Is-Lywydd Llafur, agorodd y diwrnod, a nododd fod y bŷd yn newid yn gymuned trwy ddefnydd o'r we-fyd-eang, a dylswn ystyried y gynulleidfa yma tra'n adeiladu platfform.
Mae CyMAL yn edrych i ddatblygu partneriaethau cynaliadwy gydag ystod eang o chyrff a sefydliadau, a gobeithiwyd y bydd Llafur yn cymryd rhan. Nodwyd hefyd fod cymdeithasau hanes lleol ac Archif Menywod Cymru yn cyfranwyr pwysig.
Dyler rhoi diolch arbennig i Elin Jones am gadeirio y sesiwn boreuol mewn ffordd mor ysbrydoliedig fel cafwyd y budd, a phleser, eithaf, ac i’r 35 a gymerodd rhan.
DIGWYDDIADAU LLAFUR SYDD
AR DDOD:
Robert Owen a’i Etifeddiaeth
Neuadd Gregynog, Y Drenewydd
14-17 Awst 2008
Bydd cynhadledd cenedlaethol sylweddol i gofio 150 mlynedd ers marwolaeth Robert Owen (1771-1858) yn cael i'w chynnal ar 14-17 Awst 2008 yn Neuadd Gregynog ger Y Drenewydd yn Sir Drefaldwyn, Cymru. Bydd y siaradwyr llawn yn cynnwys Yr Athro Gregory Claeys (Royal Holloway, Prifysgol Llundain) ac Ian Donnachie (Y Brifysgol Agored). Mae Llafur yn cefnogi'r cynhadledd sy'n cael i'w drefnu gan Adran Hanes a'r Ganolfan ar gyfer Hanes Cymru a'i Gororau, Prifysgol Abertawe. Ceir manylion pellach ar wefan Llafur.
Robert Owen a'r Mudiad Cydweithredol yng Nghymru
Amgueddfa Pontypridd
6 Medi 2008
Mae Llafur yn trefnu ysgol unddydd i nodi 150 mlynedd ers marwolaeth Robert Owen o'r Drenewydd, 'tad y Mudiad Cydweithredol'. Bydd yr ysgol unddydd yn dechrau am 11yb ar Ddydd Sadwrn 6 Medi, ac yn cael i'w chynnal ym Amgueddfa Pontypridd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Brian Davies, Alun Burge, Roger Davies, Mervyn Wilson a Chris Williams. Mae'r digwyddiad am ddim. Cysylltwch a Sian Williams s.f.williams@swansea.ac.uk i cadw eich lle.
Hanes Chwaraeon Cymru
Stadiwm SWALEC, Caerdydd
1 Tachwedd 2008
Bydd CCB Llafur yn cael i'w chynnal ar Ddydd Sadwrn 1 Tachwedd fel ran o ysgol unddydd ar Hanes Chwaraeon Cymru. Bydd yr ysgol unddydd yn cael i'w chynnal yn Stadiwm SWALEC, Gerddi Sophia, Caerdydd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
Martin Johnes, Laura McAllister, Andrew Hignell a Carolyn Hitt. Bydd manylion pellach yn cael i'w ddosbarthu i aelodau mewn da bryd ac hefyd byddant ar gael ar wefan Llafur.
DIGWYDDIADAU O DDIDDORDEB I AELODAU LLAFUR:
NAASWCH 2008
31 Gorffennaf 2008
Prifysgol Toronto
Bydd cynhadledd 2008 Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaeth Diwylliant a Hanes Cymru yn cael i'w chynnal o Ddydd Iau, 31 Gorffennaf tan Ddydd Sadwrn, 2 Awst 2008, ar campws Coleg Fictoria ym Mhrifysgol Toronto. Noddwyd y cynhadledd gan Ganolfan Astudiaethau Diwygiad a Dadeni, Canolfan Astudiaethau Canoloesol, a'r Rhaglen Astudiaethau Geltaidd Coleg San Mihangel.
Gwobrau am Ymchwil Cydweithredol i Hanes Cymru
Mae dau academydd o Adran Hanes Brifysgol Abertawe wedi derbyn dau wobr am ymchwil cydweithredol gyda Amgueddfa Genedlaethol y Glannu a'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru.
Mae'r gwobrau, sydd werth bron at £48,000 yr un, yn rhodd gan Cynllun Gwobrau Doethuriaethol Cydweithredol y Cyngor Ymchwil Celfyddid a Dyniaethau (AHRC). Byddant yn ariannu dau ysgoloriaeth ol-raddedigaethol pwysig ar gyfer prosiectau ar 'Meistri llongau a hanes morwrol a trefol' ac 'Yr amgylchedd hanesyddol chwaraeon yng Nghymru'. Bwriad y gwobrau yw i annog a ddatblygu cydweithrediad rhwng brifysgolion a sefydliadau ddi-academaidd. Maent hefyd yn ddarparu cyfleoedd i myfyrwyr doethuriaeth i fanteisio ar brofiad o waith y tu allan i'r amgylchedd academaidd.
Bydd y prosiect cyntaf, sy'n cydweithrediad rhwng Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Dr Louise Miskell, Uwch Ddarlithydd yn y Brifysgol, yn ymchwilio i ran meistri llongau yn hanes trefol. Mae cofnodion perchnogaeth llongau borthladd Abertawe, sydd ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, yn cynnig cyfle i canfod brif arianwyr gweithredol yn gymuned morwrol Abertawe yn ystod a 19eg Ganrif ac i asesu i ba raddau roeddent yn ffurfio grwp uniolaeth cydlynol gyda llais unigryw o fewn llywodraeth y dref.
Bydd yr ail prosiect, sy'n cydweithrediad rhwng y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru a Dr Martin Johnes, darlithydd mewn hanes yn y Brifysgol, yn archwilio hanes amgylchedd chwaraeon yng Nghymru. Drwy ddefnyddio hen fapiau, casgliadau ffotograffau hanesyddol, a chofnodion sefydliadau chwaraeon megis Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pel-Droed Cymru a cyngrheiriau lleol, bydd ymchwilydd y prosiect yn catalogio prif safleoedd chwaraeon Cymru i canfod pwysigrwydd hanesyddol a phensaerniol y safleoedd llai adnabyddus a'r rhai sydd wedi eu anghofio.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch ac Adran Hanes Prifysgol Abertawe ebost: history@swansea.ac.uk
Os oes gennych unrhyw ddeunydd hoffech ei gynnwys yn y cylchlythyr nesaf cysylltwch a Stephanie Ward ar sjw00@aber.ac.uk. Mae gennym diddordeb arbennig yn adolygiadau byr o cyhoeddiadau.

|