|
Cyfnodolyn ysgolheigaidd yw Llafur, a
seilir y rhan fwyaf o'r erthyglau ar ymchwil gwreiddiol, fel â
adlewyrchir yn y troednodiadau. Ond fe ddisgwyl y golygyddion bod yr
erthyglau wedi eu cyflwyno mewn modd cyraeddadwy, gan gadw'r darllenwr
cyffredin mewn cof. Croesawn atgofion a chofiannau addas yn arbennig,
neu ddogfennau dadlennol a haedda sylw cynulleidfa ehangach.
Mae llawer o'n hawduron yn cyhoeddi eu darn o
waith cyntaf ac mae'r golygyddion yn fodlon cynnig cyngor ar gyflwyno,
arddull, ac awgrymiadau i adolygu, neu drafod cyfraniadau arfaethedig
cyn eu cyflwyno. Mae taflen arddull ar gael ar gais.
|
|
Nid yw'r cyfnodolyn yn adolygu llyfrau yn y modd
cyffredin, ond fe wna'r golygyddion erthyglau comisiwn o dro i dro,
sydd yn darparu arolygiadau o gaeau arbenigol yn y maes neu adolygu twr
o gyhoeddiadau diweddar perthnasol. Dylai rhywun sydd â syniadau am y
fath erthyglau gysylltu â'r golygyddion, fesul e-bost neu bost, i
drafod cynnig yn hytrach na chyflwyno erthygl orffenedig.
Fel arfer, darllenir erthyglau gan y ddau olygydd a wna benderfyniadau
a chynnig cyngor. Weithiau rydym yn ceisio cyngor darllenwyr allanol
fel dyfarnwyr. Cyflwynwch gopi caled yn y lle cyntaf os gwelwch yn dda.
Lle bo'n bosib, dylai cyfraniadau fod wedi eu teipio ar gyfrifiadur, ac
yna eu cyflwyno fesul disg neu e-bost. Ond ni ddylai atal unrhyw
gyfranogwr rhag ysgrifennu erthygl ar y sail na all gwrdd â'r gofynion
hyn. Mae nifer o'r cyfraniadau i'r erthygl oddeutu 5,000 o eiriau o hyd
ond mae'r golygyddion yn fodlon trafod ac ystyried cyfraniadau yn hwy.
|
|
Danfonir erthyglau yn y Saesneg i:
Dr
Steven Thompson,
Adran Hanes a
Hanes Cymru,
Prifysgol
Aberystwyth,
Adeilad Hugh Owen,
Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3DY
or
Dr
Stephanie Ward
4.28
School of History, Archaeology and Religion
Cardiff
University
Humanities
Building
Colum
Drive
Cardiff
CF10
3EU
ebost:

|
|
Danfonir erthyglau yn yr
Gymraeg i:
Dr Paul O’Leary,
Adran Hanes a Hanes Cymru,
Prifysgol Cymru, Aberystywth,
ABERYSTWYTH,
Ceredigion,
SY23 3DY
ebost:
|
|
|